P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicholas Bounds, ar ôl casglu 480 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae cyfreithiau cwympo coed o’r 1960au wedi dyddio erbyn hyn. Mae'r polisi cynllunio presennol yn caniatáu ar gyfer torri coed hynafol a hynod (veteran) i lawr.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Coed. Mae angen mwy o ddiogelwch ar eu cyfer, mae'r cyfreithiau'n llawer rhy hamddenol.

Mae polisïau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach ac ar raddfa fawr yn caniatáu i ddatblygwyr eiddo/perchnogion tir wneud cais am Drwydded Cwympo Coed drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed hynafol a hynod.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Fideos ar sut i symud coeden heb ei thorri: -

- “How to Transplant and Move Large Trees Featuring an Air Tool”:

https://youtu.be/rMIbv6cdAsk

“Tree Moving Machine”:

https://youtu.be/9TtzQtVga7Y

“What does it cost to move a Large Tree”:

https://www.greerbros.com/greerblog/cost-to-move-a-large-tree

Pam caniatáu i goeden hynafol neu hynod gael ei thorri? Mae'n syml - yn lle ei thorri, symudwch y goeden i rywle arall. Felly, dylai polisi cynllunio gael ei ddiwygio fel a ganlyn:

“Dim torri coed hynafol / hynod, rhaid i bob datblygwr ddadwreiddio a symud y coed i leoliad agos iawn”.

Byddai hyn, yn ei dro, nid yn unig yn achub y coed ond hefyd yn creu swyddi ledled Cymru.

Achubwch goed hynafol a hynod.

Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed i lawr!

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ynys Môn

·         Gogledd Cymru